Ffrindiau Cronfeydd Dŵr Caerdydd – Cylchlythyr rhif 6, Rhagfyr 2024
Mae tymor y gwyliau yn dynesu a dyma edrych yn ôl ar weithgareddau’r Ffrindiau yn y misoedd diwethaf. Cewch wybodaeth am y Ffrindiau ar friendsofcardiffreservoirs.org a hefyd sut i archebu gweithgareddau ger y cronfeydd ar lisvane-llanishen.com.
Rhodd Grŵp Gweithredu Cronfeydd Dŵr (RAG)
Pan derfynodd RAG yn 2023, penderfynwyd rhoi rhan sylweddol o’r adnoddau oedd yn weddill i’r Ffrindiau. Fel yr amlygwyd yn y cylchlythyr diwethaf, bydd y rhodd yn cael ei defnyddio i ehangu mynediad i’r safle er budd y gymdeithas gyfan.
Welis yn y coed
Defnyddiwyd rhan o rodd y RAG i’r Ffrindiau i ehangu mynediad i’r cronfeydd i deuluoedd o ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Bu Cyngor Ffoaduriaid Cymru, Groundwork, Oasis a Dŵr Cymru yn gweithio ynghyd i alluogi wyth teulu i fynychu sesiynau addysg allanol am wyth wythnos rhwng mis Medi a mis Tachwedd eleni.
Trwy ‘Wellies in the Woods’, bu’r teuluoedd yn mwynhau bod allan yn yr awyr iach a chael dysgu sgiliau newydd a chwaraeon hefyd. Cyflwynwyd chwaraeon allan yn yr awyr iach i’r plant hefyd – nid oedd rhai ohonynt wedi cael profiad o fod mewn coedwig erioed o’r blaen.
Bu ymateb y teuluoedd yn aruthrol. Dywedodd un rhiant: “Roeddem wrth ein bodd. Ei hoff beth oedd chwistrellu’r targedi a chwarae míg. Fe ddown draw i’r gronfa eto, d’oeddwn i ddim yn gwybod ei fod yma.”
Bwriadwn drefnu rhagor o achlysuron fel hyn ynghyd â gweithgareddau eraill hefyd er mwyn hyrwyddo a hybu mynediad i’r safle trwy wneud mwy o ddefnydd o’r rhodd RAG.
Atgofion digidol
Mewn partneriaeth â Casgliad y Werin Cymru, Cymunedau Digidol Cymru a Dŵr Cymru, datblygir y brosiect hon er mwyn cadw atgofion digidol o’r cronfeydd. Bydd y deunydd a gesglir i’w weld ar wefan Casgliad y Werin Cymru ymhen amser. Mae cyfleoedd ar gael i wirfoddoli er hybu’r brosiect yma.
Ar ôl cwbwlhau hyfforddiant, cawsom ddiwrnod arbrofol pleserus ym mis Tachwedd. Arbrofi cyfarpar newydd a phrofi cyfweliadau a lluniau gyda’n haelodau oeddem gan adlewyrchu eu amrywiol atgofion am y cronfeydd ar hyd y blynyddoedd. Os hoffech rannu eich atgofion chi, gyrrwch ebost atom os gwelwch yn dda i memories@friendsofcardiffreservoirs.org.
Gwobrwyon
Ym mis Hydref, enillodd y safle y wobr anrhydeddus ‘Gweinyddiaeth Tir y Deyrnas Unedig’gan fudiad Tirfesurwyr Siartredig Brenhinol. Bu pwyllgor y Ffrindiau ac aelodau o’r hen Grŵp Arwaith y Gronfa yn cyfarfod â’r beirniaid i egluro iddynt adrawiad y cronfeydd. Cawsant eu cynrychioli yn y seremoni wobrwyo yn Llundain.
Bu i’r safle ennill ‘Gwobr y Faner Werdd’ hefyd. Meincnod ryngwladol safonol i barciau, gerddi a gwagleoedd gwyrdd hygyrch i’r cyhoedd yw hon.
Cafodd y Ffrindiau eu enwebu fel ‘Grŵp Gwirfoddolwyr y Flwyddyn’ hefyd gan Drydedd Sector Cyngor Caerdydd.
Cyfleoedd i wirfoddoli
Mae gweithgareddau amrywiol ar gael gyda ni a Dẃr Cymru er ymdopi â’r coetir sydd yma. Gall gwirfoddolwyr weithredu fel llysgenhadon i sicrhau bod ymwelwyr yn derbyn y profiad gorau o’r cronfeydd. Gallant hefyd helpu i ddiogelu y ffyngoedd prin sydd yma trwy gribinio’r argaeau yn y Gwanwyn.
Mae 180 o wirfoddolwyr wedi eu cofrestru ar System Gyfundrefn Gwirfoddolwyr ac fe nodir bod 3,600 o oriau gwirfoddoli wedi eu cofnodi er pan sefydlwyd y Ffrindiau.
Hoffai’r Ceidwaid glywed gan y gwirfoddolwyr ynglŷn â’r rhaglen o gyfleoedd sydd ar gael iddynt ger y cronfeydd. Daeth nifer o aelodau a’r Ceidwaid i’n grŵp ffocws cyntaf ym mis Gorffennaf a bu trafodaeth am y pethau sy’n gweithio’n dda a’r rheini y gallent fod yn well. Os hoffech gymryd rhan, bydd rhagor sesiynau yn 2025.
Achlysur cymdeithasol
Daeth adborth gwych ar ôl ein cyfarfod cymdeithasol diwethaf. Felly, ein bwriad yw trefnu un arall yn y flwyddyn newydd gan obeithio arddangos rhai o’r Atgofion Digidol a gasglwyd hyd yma. Cewch wybod mwy am hyn yn fuan.
Teithiau cerdded tywysedig
Rhoesom gyfle i wirfoddolwyr dderbyn hyfforddiant fel ‘Arweinyddion Teithiau Cerdded’ i’w galluogi i groesawu cymunedau i’r safle, a phob yn ddau arwain cylchdeithiau i gyflwyno hanes, ecoleg a’r gweithgareddau sydd ar gael yma. Yn ogystal, tefnwyd cyfres o lwybrau cerdded poblogaidd ar gyfer ein haelodau a grwpiau cymunedol.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Diolch i’r aelodau fynychodd y cyfarfod ym mis Gorffennaf. Cymeradwywyd nifer o newidiadau i’n cyfansoddiad, cyllid y grŵp a swyddi’r pwyllgor. Cytunwyd y dylai’r pwyllgor ymchwilio i’r hyn sydd ei angen ei wneud i ymgeisio am statws elusennol. Mae cofnodion y cyfarfod i’w gweld ar ein gwefan ynghyd â’n cyfansoddiad diwygedig.
Eich pwyllgor
Diolch yn fawr i Amit Jain, Rajeev Sharma and Sandra Veasey am eu cyfraniad i’r Ffrindiau. Cyfetholwyd Ros Reilly (Ysgrifenydd Aelodaeth) a Phil Savage i’r pwyllgor. Mae dau o swyddi gweigion o hyd – os oes diddordeb gennych am ymuno â ni, rhowch wybod ar membership@friendsofcardiffreservoirs.org
Parhau mae’r sesiynau ‘bwrw mewn’ yng nghaffi’r Ganolfan Ymwelwyr (1000 – 1200 bob Sadwrn olaf o’r mis). Mae’r sesiynau yn gyfle i aelodau gymdeithasu ac i bobl wybod mwy am grŵp y Ffrindiau a’r cyfleoedd sydd ar gael i wirfoddoli.
Aelodaeth o’r Ffrindiau a thanysgrifiadau
Erbyn hyn, mae gennym 300 o aelodau. Ceir manylion sut i ymuno â’r Ffrindiau are ein gwefan. Y gost yw £5 y flwyddyn (£10 i deulu). Nid yw tanysgrifiadau y flwyddyn ddiwethaf wedi cyflenwi treuliau rhedeg y grŵp felly byddem yn hynod o ddiolchgar i dderbyn tanysgrifiadau hwyr o 2024.
Cadw mewn cysylltiad
Ymgeisiwn i yrru ebost yn rheolaidd i’n haelodau ynglŷn â chyfleoedd i wirfoddoli a gellir eu gweld ar y system Rheoli Gwirfoddoli (Team Kinetic). Y ffordd orau i’w cyrraedd yw trwy fewngofnodi i’r system (Login Page teamkinetic.co.uk). Os ydych am gofrestru ar Team Kinetic am y tro cyntaf, gyrrwch ebost i membership@friendsofcardiffreservoirs.org os gwelwch yn dda. Os bydd anhawsterau gyda Team Kinetic, mae Richard, cynhaliwr ein TG yn barod iawn i helpu (ebost: ITsupport@friendsofcardiffreservoirs.org).